Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2019

 

 Craffu Technegol pwynt 1 : Gwall yw'r cyfeiriad at erthygl 18(3) o Orchymyn 2005. Mae'r ddarpariaeth wallus yn un dros ben o ddrafft cynharach y dylid bod wedi ei dileu oherwydd nid yw erthygl 18(3) yn gymwys o ran Cymru. Caiff y cyfan o erthygl 18 a'r cyfeiriad hwn at erthygl 18(3) yn erthygl 21 eu dileu gan yr OS Ymadael â'r UE y disgwylir iddi ddod i rym ar y diwrnod ymadael (sef 29 Mawrth 2019 ar hyn o bryd). Nid yw'r gwall hwn yn peri problem gyfreithiol, ond os bydd y gwall yn para oherwydd gohirio’r diwrnod ymadael am gyfnod sylweddol caiff y gwall ei ddiwygio i osgoi dryswch.

Craffu Technegol pwynt 2 : bwriadwyd diwygio testun, ond nid effaith gyfreithiol, rhai o ddarpariaethau Gorchymyn 2005 o ran Cymru, Lloegr a'r Alban er mwyn cysoni'r testun. Rhoddwyd y gorau i'r bwriad hwnnw, ond mae hynny wedi arwain at gynnwys, drwy wall, y cyfeiriad a nodwyd, sy'n ceisio cymryd lle paragraff (1B) o erthygl 40 fel yr oedd yn gymwys o ran Lloegr a'r Alban. Nid ydym yn ystyried bod hyn yn ultra vires gan fod cymhwyso'r OS hon wedi ei chyfyngu yn benodol i Gymru yn rhinwedd erthygl 1(2), felly nid yw'r paragraff gwallus yn gweithio o gwbl. Gallai hyn beri dryswch pe bai yn parhau, ac felly caiff ei ddiwygio pan fydd y cyfle nesaf yn codi.

Craffu Technegol pwynt 3 : Mae erthygl 15 (b) yn ddiangen a chaiff ei dileu. Dylai'r eitem 10A colofn 3 a fewnosodwyd gynnwys y cyfeiriad newydd. Fodd bynnag, caiff yr atodlen hon ei dileu yn ei chyfanrwydd gan yr OS ymadael â'r UE y disgwylir iddi ddod i rym ar y diwrnod ymadael. Os bydd hyn yn parhau am gyfnod hir oherwydd gohirio'r diwrnod ymadael, caiff ei diwygio pan fydd y cyfle nesaf yn codi.

Craffu Technegol pwynt 4 : Amnewidiwyd y ddarpariaeth er mwyn mewnosod atalnod llawn cyn y coma. Fodd bynnag, fel y mae'n digwydd, mae'r ddwy fersiwn allweddol o Orchymyn 2005 ar Westlaw a Legislation.gov yn cynnwys yr atalnod llawn dan sylw, felly mae'r ddarpariaeth hon yn cymryd ei lle ei hun heb wneud unrhyw newid cyfreithiol a heb newid yr effaith a fwriedir, ac felly nid ydym yn bwriadu cymryd unrhyw gamau o ran hyn.